Cytundeb Paris (1947)

Cytundeb Paris
Enghraifft o'r canlynolcytundeb heddwch Edit this on Wikidata
Mathcytundeb heddwch Edit this on Wikidata
Dyddiad10 Chwefror 1947 Edit this on Wikidata
GwladBaner Iwgoslafia Iwgoslafia
Baner Yr Eidal Yr Eidal
Baner Iwgoslafia Iwgoslafia
Baner Undeb Sofietaidd Undeb Sofietaidd
Baner Y Ffindir Y Ffindir
Baner Ffrainc Ffrainc
Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
Baner Rwmania Rwmania
Baner Bwlgaria Bwlgaria
Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Rhagflaenwyd ganCynhadledd Potsdam Edit this on Wikidata
LleoliadParis Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLa contemporaine Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Stamp o'r Ffindir yn cofnodi Cytundeb Paris, Pax Paris 1947
Map Ewrop yn dangos ffiniau Ffindir, Hwngari, Rwmania a'r Eidal ar ei helaethaf, 1942 cyn Cytundeb Paris
Map Ewrop yn ôl blociau economaidd 1957-58, yn dangos ffiniau Ewrop ôl Cytundeb Paris ac ôl cytundeb ar ffiniau Trieste

Cytundeb heddwch oedd Cytundeb Paris a lofnodwyd ym mhrifddinas Ffrainc ar 10 Chwefror 1947 ac a oedd yn ganlyniad terfynol y gynhadledd heddwch a gynhaliwyd yn yr un ddinas rhwng 29 Gorffennaf a 15 Hydref 1946. Gan y bu y trafodaethau i gyd yn 1946 cyfeirir ato mewn rhai mannau fel Cytundeb Paris 1946. Ei henw llawn yw Cytundeb Heddwch Paris. Y gwladwriaethau a lofnododd y Cytundeb oedd:

  • Cynghreiriaid buddugol yr Ail Ryfel Byd: Yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Iwgoslafia, Gwlad Pwyl, Gwlad Groeg, Tsiecoslofacia ac eraill.
  • Gwledydd oedd wedi'u cynghreirio gyda'r Almaen yn ystod y gwrthdaro byd a elwir yn bwerau Echel (er i nifer ohonynt newid eu hochr wrth i'r Rhyfel fynd yn ei flaen): Yr Eidal, Rwmania, Hwngari, Bwlgaria a'r Ffindir. Ni allai'r Almaen gymryd rhan oherwydd iddi gael ei meddiannu gan bedwar pŵer buddugol y rhyfel ac nid oedd yn cael ei hystyried yn destun cyfraith ryngwladol.

Roedd gan y cytuniadau gymalau tiriogaethol, cymalau economaidd fel gwneud iawn am ryfel ac yn olaf cymalau gwleidyddol. Y nod oedd dadwneud y newidiadau tiriogaethol a orfodwyd neu a ysbrydolwyd gan yr Almaen Natsïaidd er 1938.[1]

  1. Treaties of Peace with Italy, Bulgaria, Hungary, Roumania and Finland (English Version). Washington, D.C.: Department of State, U.S. Government Printing Service. 1947. t. 17. hdl:2027/osu.32435066406612.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search